Your Creativity #CreativeNetwork Rhwydwaith Creadigol - Celfyddydau Lleol Cymru Mae Celfyddydau Gwirfoddol wedi sefydlu rhwydwaith ar-lein newydd, i gysylltu unrhyw un sy'n gweithio yn, neu sydd â diddordeb mewn, datblygu celfyddydau lleol yng Nghymru. [English] Nodau'r rhwydwaith yw: cynnig cyfleoedd i rannu a dathlu'r gwaith sy'n digwydd ledled Cymru; i gysylltu datblygiad celfyddydau lleol â pholisi cenedlaethol; darparu cyfleoedd ar gyfer cydweithredu; a darparu cefnogaeth i bobl sy’n gweithio ym maes datblygu celfyddydau lleol yn yr amseroedd anodd hyn. Bydd y cyfarfodydd am 9:30yb ar ddydd Iau cyntaf y mis, trwy Zoom. Gallwch ymuno â'r cyfarfod trwy'r botwm ‘Join' yma: www.voluntaryarts.org/creativenetwork Cyfarfodydd nesaf 4 Chwefror 2021 - Digwyddiad - Sut mae gweithgaredd creadigol yn cael ei gefnogi mewn meysydd o anfantais economaidd-gymdeithasol? Archif o gyfarfodydd 4 Mehefin 2020 - Cyfarfod agoriadol 2 Gorffennaf 2020 - Cyfnewid gwybodaeth 6 Awst 2020 - Cyfleoedd newydd i gydweithio 3 Medi 2020 - Cyflwyno'r achos: Arddangos effeithiolrwydd ein gwaith 1 Hydref 2020 - Ailgychwyn gweithgareddau celfyddydol yng Nghymru 5 Tachwedd 2020 - Parhad Amherffaith: Beth allwn ei wneud i sicrhau bod ein gwaith yn parhau i ddatblygu? 3 Rhagfyr 2020 - Edrych Ymlaen: Wrth i'r flwyddyn gythryblus hon ddod i ben, beth allwn ni ei ddysgu ac adeiladu arno yn 2021? (Crynodeb fideo byr yma) 7 Ionawr 2021 - Gweithgareddau Cyfunol - Sut allwn ni gynllunio ar gyfer darpariaeth gyfunol: cyflwyno cymysgedd o weithgareddau celfyddydol wyneb yn wyneb ac o bell? (Crynodeb fideo byr yma) Os oes gennych unrhyw gwestiynau, e-bostiwch [email protected] Rydym yn ddiolchgar iawn i Gyngor Celfyddydau Cymru am eu cefnogaeth i'r fenter hon.